Polisi Preifatrwydd
Gwasanaeth Cwsmeriaid
Rydym yn cyfathrebu gyda’n defnyddwyr drwy e-bost neu dros y ffôn i ddarparu gwybodaeth neu wasanaethau sy’n gysylltiedig â’u hymholiadau. Byddwn ond yn defnyddio gwybodaeth gyswllt at ddiben y cyfathrebiad hwn.
Caniatâd i gysylltu
Byddwn ond yn cysylltu â defnyddwyr mewn perthynas ag unrhyw gyfathrebu parhaus neu os ydynt wedi cofrestru i dderbyn gwybodaeth ychwanegol. Bydd unrhyw gyfathrebiadau ychwanegol y mae defnyddwyr wedi dewis eu derbyn (e.e. cylchlythyrau) hefyd yn cynnwys dolen i ddad-danysgrifio er mwyn dewis peidio derbyn y rhain yn y dyfodol.
Rhannu data
Nid ydym yn trosglwyddo nac yn gwerthu unrhyw wybodaeth am ein defnyddwyr i unrhyw fusnes neu sefydliad arall oni bai bod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i wneud hynny gan yr awdurdodau perthnasol.
Google analytics
Rydym yn defnyddio Google Analytics i helpu i wella profiad y defnyddiwr ar ein gwefan. Mae’r data hwn yn cael ei gasglu’n ddienw ac nid yw unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy (PII) yn cael ei storio ar ein gweinyddwyr. Am wybodaeth bellach, mae gan Google Analytics bolisi manwl hefyd ar not stored on our servers. For further information, Google Analytics also has a detailed policy on ddiogelwch a diogelu data.
Mae Google Analytics hefyd yn nodi arfer gorau er mwyn osgoi anfon Gwybodaeth Bersonol Adnabyddadwy (PII) a thrwy ddilyn y rhain, rydym yn lleihau’r risg y bydd ein defnyddwyr yn trosglwyddo unrhyw PII i Google Analytics.
Ffeiliau Cofnodi
Mae ein systemau yn casglu rhywfaint o wybodaeth yn awtomatig am ymwelwyr, gan gynnwys cyfeiriadau IP, math o borwr, iaith, ac amseroedd a dyddiadau ymweliadau i dudalennau gwe, a ddefnyddir i weinyddu’r safle.
Polisi Cwcis
Mae cwcis yn ffeiliau testun bychan sy’n cael eu gosod ar eich cyfrifiadur gan wefannau y byddwch yn ymweld â hwy. Maent yn cael eu defnyddio’n helaeth er mwyn gwneud i wefannau weithio, neu weithio’n fwy effeithlon, yn ogystal â darparu gwybodaeth i berchnogion y safle.
Nid ydym yn defnyddio unrhyw cwcis sydd eu hangen i chi ddefnyddio’r wefan, fodd bynnag, rydym yn defnyddio Google Analytics i helpu i wella profiad y defnyddiwr ar ein gwefan. Mae’r data hwn yn cael ei gasglu’n ddienw ac nid yw unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy (PII) yn cael ei storio ar ein gweinyddwyr. Am wybodaeth bellach, mae gan GoogleAnalytics bolisi manwl hefyd ar not stored on our servers. For further information, Google Analytics also has a detailed policy on ddiogelwch a diogelu data.
Mae’r rhan fwyaf o borwyr y we yn caniatáu rhywfaint o reolaeth dros osodiadau’r porwr. I gael gwybod mwy am cwcis, gan gynnwys sut i weld pa cwcis sydd wedi’u gosod a sut i’w rheoli a’u dileu, ewch i www.aboutcookies.org.
Diwygiadau
Mae’n bosibl y bydd y polisi preifatrwydd hwn yn cael ei ddiweddaru’n achlysurol i adlewyrchu newidiadau yn ein busnes. Os gwneir newidiadau i’r polisi hwn, bydd y manylion yn cael eu postio ar y dudalen hon. Os bydd y newidiadau yn ein polisi preifatrwydd yn effeithio ar y defnydd o’ch data personol, fe wnawn ein gorau glas i gysylltu â chi er mwyn sicrhau eich cydsyniad i’w ddefnyddio.