Amdanom Ni
Rydym yn grŵp annibynnol o arweinwyr teithiau cerdded gwirfoddol , nid-er-elw yng Ngogledd Cymru, sy’n cynnig rhaglen reolaidd o deithiau cerdded ar hyd y flwyddyn.
Mae’r tîm yn gerddwyr ac arweinwyr profiadol o ystod eang o gefndiroedd. Mae profiad yr arweinwyr yn amrywio o hanes hir o arwain teithiau cerdded gyda sefydliadau cerdded eraill, i’r rhai sydd ag angerdd syml am yr awyr agored a helpu eraill i’w fwynhau yn lleol. Mae pob un o’r arweinwyr wedi derbyn hyfforddiant cymorth cyntaf a mordwyo ac maent yn cwrdd yn rheolaidd ar hyd y flwyddyn. Rydym yn gwerthfawrogi adborth yn dilyn ein teithiau cerdded oherwydd mae’n ein cynorthwyo i gynnig ystod o deithiau cerdded sy’n apelio i bobl.