Amodau Archebu
Gofynnir i bob cerddwr archebu lle ar y teithiau cerdded ymlaen llaw gan ddefnyddio’r rhifau ffôn cyswllt sydd wedi’u nodi gyda phob taith gerdded yn y rhaglen (oni nodir fel arall). Gofynnwn i bob cerddwr ddarllen y wybodaeth a’r amodau archebu ar y dudalen hon cyn dod ar ein teithiau cerdded.
Pobl Ifanc
Croesewir plant o dan 18 oed ond mae’n rhaid i riant neu warcheidwad dros 18 oed gerdded gyda hwy.
Cŵn
Croesewir cŵn ar bob taith gerdded, yn ôl disgresiwn yr Arweinydd, ac mae’n rhaid eu cadw o dan reolaeth bob amser (cliciwch yma i weld Cod Cerdded Cŵn Cymdeithas y Cerddwyr)).
Mae’n rhaid codi a gwaredu unrhyw ‘Faw Ci’ yn gyfrifol.
Diogelwch
Er mwyn galluogi’r arweinydd i fod yn ymwybodol o’r nifer o gerddwyr y disgwylir iddynt gwrdd â hwy/eu harwain ar gyfer hyd y daith gerdded – mae’r niferoedd yn amrywio yn ôl y daith gerdded, yn amodol ar y tir, y math o daith gerdded a’r arweinydd.
Er mwyn galluogi arweinwyr i gasglu’r manylion gofynnol ar gyfer pob cerddwr, h.y. datgelu unrhyw wybodaeth feddygol sy’n berthnasol ar gyfer hyd y daith gerdded a manylion cyswllt mewn argyfwng.
Iechyd
Mae gan bob cerddwr gyfrifoldeb i sicrhau bod eu lefelau ffitrwydd corfforol yn ddigonol er mwyn cymryd rhan yn y teithiau cerdded a ddewisir ganddynt.
Meddyginiaeth
Mae pob cerddwr yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn dod ag unrhyw feddyginiaeth y gallai fod ei hangen arnynt yn ystod y daith gerdded, h.y. anadlwyr, epi-pen, chwistrell GTN ac yn y blaen a’u bod yn rhoi gwybod i’r Arweinydd.
Dillad, Esgidiau,
Bwyd a Diod
Mae pob cerddwr yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn gwisgo dillad ac esgidiau addas ar gyfer yr amodau y disgwylir eu profi, h.y. esgidiau cerdded priodol, dillad gwrth-ddŵr, haenau cynnes ychwanegol o ddillad, hetiau/menig ac eli haul.
Rydym yn argymell bod cerddwyd yn dod â digon o fwyd a dŵr gyda hwy ar gyfer eu hanghenion a hyd y daith gerdded. Mae gan yr arweinydd hawl i wrthod cerddwyr heb yr offer priodol.
Ticks
Pan fyddwch yng nghefn gwlad mae perygl y cewch eich brathu gan drogod. Mae trogod yn gallu cario clefydau amrywiol felly mae’n bwysig eich bod yn gwybod beth i’w wneud os cewch eich brathu, neu sut i osgoi cael eich brathu yn yr achos cyntaf. Am wybodaeth bellach ewch i:
https://ukhsa.blog.gov.uk/2022/04/13/what-is-lyme-disease-and-why-do-we-need-to-be-tick-aware/
Smygu
Mae pob taith gerdded yn ddi-fwg.
Atebolrwydd
Mae’r trefnwyr wedi ymdrechu i sicrhau diogelwch pob cyfranogwr yn ystod y teithiau cerdded, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol. Fodd bynnag, ni all y trefnwyr fod yn gyfrifol am unrhyw anaf i, colled neu niwed i berson neu eiddo, sut bynnag y’i hachoswyd, ac eithrio i’r graddau y mae’n deillio o esgeulustod uniongyrchol y trefnwyr a phan oedd gan y trefnwyr ddyletswydd gofal. Rydym yn eich cynghori i drefnu yswiriant yn erbyn damweiniau ac anafiadau personol.