Llwybr Llechi Eryri – Beddgelert i Flaenau Ffestiniog

  • 14/04/2024
  • Meet Time: 09:20

Manylion y Daith Gerdded

Mae rhan gyntaf y daith yn ein tywys o brysurdeb Beddgelert i dawelwch Croesor ar hyd llwybr godidog ar hyd glan yr afon, lôn wledig dawel a llwybr gwyllt y porthmyn ar draws y rhostir agored.

Mae’n debyg mai ail ran y daith yw’r un fwyaf gwyllt a llafurus hyd yma. Mae llwybr safonol yn esgyn i fyny cwm Croesor hyd at chwarel Croesor. Mae arwyddbyst ond mae angen mordwyo gofalus hefyd er mwyn cyrraedd chwarel anghysbell Rhosydd, ac o’r fan hon mae llwybr llydan yn dilyn i lawr at Lyn Cwmorthin a’i anheddau gwag. O’r fan hon mae’r ffordd yn arwain i lawr i Danysgrisiau.

O Feddgelert, byddwn yn dilyn Afon Glaslyn ar hyd llwybr palmantog drwy barcdir, gan ymweld â bedd Gelert o bosibl. Ar ôl croesi’r afon a’r rheilffordd, cerddwn ar hyd Bwlch Aberglaslyn. Ar ddiwedd y daith ar hyd glan yr afon, byddwn yn cyrraedd maes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Nantmor, lle mae toiledau. O’r fan hon rydym yn dilyn y lôn gul drwy bentref prydferth Bwlchgwernog, lle mae ffordd y porthmyn yn croesi’r rhostir i Groesor (gan gadw golwg am y maen hynafol).

O Groesor, mae llwybr safonol yn esgyn i fyny cwm Croesor i chwarel Croesor a Chwarel Rhosydd, ac o’r fan hon mae’r ffordd yn arwain i lawr i Danygrisiau. Wrth ddilyn y ffordd i fyny cwm Croesor o Gaffi Croesor, rydym yn dilyn y llwybr llydan sy’n esgyn i fyny ochr ddeheuol y cwm at chwarel Croesor. Ar ôl mynd heibio i rai adeiladau adfeiliedig, rydym yn cadw at y llwybr ysgafn sy’n mynd heibio’r adfeilion ac sy’n esgyn yn raddol, gan gadw at y chwith, uwchben y chwarel. Ymhen ychydig, rydym yn dilyn y llwybr ar draws argae Llyn Croesor, cyn parhau ar draws tir sy’n gallu bod yn gorsiog mewn mannau, at graig wen fawr ger camfa, pan fyddwn uwchben chwarel Rhosydd.

Yna byddwn yn cerdded ar draws y chwarel gan ddilyn y llwybr llydan i lawr at Lyn Cwmorthin, gan fynd heibio i res o dai adfeiliedig a chapel heb do, truenus yr olwg, yna ar hyd glannau’r afon fyrlymus. Wrth y tai, rydym yn croesi’r afon ac yn cerdded i lawr at Gaffi Mari yn Nhanygrisiau. O Danygrisau byddwn yn dilyn llwybrau caeau i Flaenau Ffestiniog at y safle bws lle byddwn yn dal Bws Cyhoeddus 3B (Lloyds Coaches) yn ôl i Dremadog.

  • Hyd: 7 awr (o gerdded)
  • Pellter: 18.67 cilomedr / 11.6 milltir
  • Esgynfa: 824 metr / 2703 troedfedd
  • Cyfarfod: Stryd yr Eglwys, y tu allan i Swyddfa’r Post, Sgwâr y Farchnad. Cyfeirnod Grid: SH 56165 40148
  • Meet Time: 09:20
  • Start Time: 09:35
  • What3words: privately.promotion.plankton
  • Postcode: LL49 9RB
  • Gradd: Cymedrol

Archebu lle ar y Daith Gerdded hon

I archebu lle ar y daith gerdded hon ymlaen llaw, defnyddiwch fanylion cyswllt arweinydd y daith gerdded isod.

Arweinydd y Daith Gerdded

Noder

  • Mae’n rhaid i bob ci fod ar dennyn.
  • Dylech gyfeirio unrhyw ymholiadau am y daith gerdded at arweinydd y daith gerdded.
  • Fe’ch cynghorir i wisgo esgidiau cerdded a socasau
  • Os ydych yn gyrru, gallwch barcio ar y stryd – rhywle yn agos at Stryd yr Eglwys.
  • Trefniadau Teithio:
    Byddwn yn parcio yn Nhremadog (mae’r bws yn gadael o Stryd yr Eglwys) – mae digon o leoedd parcio ar y ffordd, a defnyddio’r Bysiau Gwasanaeth Cyhoeddus i fan cychwyn y daith gerdded ym Meddgelert ac eto ar ddiwedd y daith gerdded o Flaenau Ffestiniog yn ôl i Dremadog a’r ceir.
    09:35 S4 Gwynfor Coaches – Tremadog i Feddgelert
    17:16 T22 Llew Coaches – Blaenau Ffestiniog i Dremadog